Mae Ysgol Fusnes De Cymru yn ymfalchïo ei bod ar flaen y gad o ran newid arloesol yng Nghymru, a thu hwnt, drwy gymhwyso gwybodaeth ac ymchwil i'r problemau bywyd go iawn sy'n wynebu pobl, busnesau a chymunedau.
Mae ganddi ddyheadau o fod heb eu hail ar gyfer addysg broffesiynol a galwedigaethol, ac arloesi ac ymgysylltu sy'n seiliedig ar ymchwil.
Rydym yn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol i feithrin ffyniant a lles y cymunedau yr ydym yn byw ynddynt ac yn eu gwasanaethu.
Rydym wedi datblygu cysylltiadau hirsefydlog â'r diwydiannau lle mae ein hymchwil wedi'i wreiddio, ac sy'n rhychwantu amrywiaeth o feysydd cyhoeddus, preifat a diwylliannol.
Mae'r Ysgol Fusnes wedi cryfhau ei hôl troed ymchwil o ran allbwn ac effaith ers REF2014 drwy fuddsoddi yn ei staff academaidd sy'n canolbwyntio ar addysgu ac ymchwil a'u datblygu.
Themâu ymchwil